MyfanwyJONESJONES - MYFANWY, . (Aunty Myf) Mehefin 23ain 2019. Yn dawel ym Mhlas Ogwen yng nghwmni ei theulu, gynt o 13 Gwernydd, Gerlan yn 93 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Wil. Mam dyner Marian a Gwenda a mam yng nghyfraith Mervyn a Brian. Nain ofalus a charedig Lowri, Owain, Catrin, Sioned, Gareth, Gethin, Sion a Huw. Hen nain hoffus eu holl wyrion a wyresau. Colled fawr i'w theulu a chyfeillion oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Sadwrn Mehefin 29ain 2019 am 10-30 y bore. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ymchwil Clefyd Siwgwr ac Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Stephen Jones Trefnwr Angladdau Cyf., Pen y Bryn, Bethesda 01248 600455
Keep me informed of updates
Add a tribute for Myfanwy